Dyddiad: 12 Hydref 2015
Pwnc: Ymweliad y Pwyllgor Menter a Busnes â Dulyn – Potensial yr Economi Forol yng Nghymru
Annwyl Edwina,
Ar 1 Hydref, bu'r Pwyllgor Menter a Busnes ar ymweliad â Dulyn ar gyfer cyfres o gyfarfodydd fel rhan o'n hymchwiliad i Botensial yr Economi Forol yng Nghymru.
Yn ystod ein trafodaethau, gwnaed argraff arnom gan barodrwydd Gweinidogion Iwerddon, Paschal Donohoe (Trafnidiaeth, Twristiaeth a Chwaraeon) a Simon Coveney (Amaethyddiaeth ac Amddiffyn) i ymgysylltu â Chymru ar faterion yn ymwneud â'r Economi Las. Yn benodol, roedd y Gweinidog Donohoe yn frwdfrydig ynglŷn â dechrau deialog am y posibilrwydd o gyflwyno cais ar y cyd i fenter Traffyrdd y Môr yr UE, a allai helpu i gael gwared ar rwystrau trafnidiaeth o amgylch porthladdoedd ar y ddwy ochr i Fôr Iwerddon. Roedd Prif Weithredwr Porthladd Dulyn, Eamonn O'Reilly, hefyd yn ymddangos yn awyddus i ymgysylltu ar y pwynt hwn.
Mae'r Pwyllgor yn debygol o argymell ein bod yn bwrw ymlaen â chydweithrediad o'r math hwn, pan fyddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad yn ddiweddarach eleni. Fodd bynnag, o ystyried y cyfnod cymharol fyr sydd gennym cyn yr etholiadau, yma ac yn Iwerddon, roeddwn eisiau ysgrifennu atoch nawr i sicrhau eich bod chi a'ch cydweithwyr yn y cabinet yn ymwybodol o'r derbyniad cadarnhaol a gawsom, a'r cyfleoedd a allai fodoli, yn ein barn ni, ar gyfer cydweithrediad ffrwythlon.
Os gallwn fod o gymorth o ran trosglwyddo manylion cyswllt, bydd y tîm clercio yn fwy na pharod i roi'r rhain i'ch swyddogion.
Cofion cynnes,
William Graham AC
Cadeirydd, Y Pwyllgor Menter a Busnes
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.